Storiau LLynnoedd Cymru, Cysgodion yn y Dyfroedd - Margaret Isaac

Darluniau gan Margaret Jones
Trosiad Cymraeg gan Juli Paschalis
Gwasg Apecs 2008
cp 978 0 9548940 6 1

Mae Margaret Isaac yn ysgrifennu llyfrau wedi eu seilio ar storïau  a lleoedd yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i’r chwedloniaeth sydd yn berthnasol i Lynnoedd Cymru. Mae’r llyfr cyntaf ar y thema hon yn ymwneud â’r llynnoedd yn ei hardal ei hun.

Mae ysbrydion Llyn Cwm Llwch, sydd wedi digio oherwydd cywreinrwydd ac ymyrraeth eu cymdogion dynol, yn bygwth boddi Aberhonddu a’r tir o gwmpas.

Ger Llyn Syfaddan, mae gwir Dywysog Cymru yn herio ei elynion ac yn gorchymyn i’r adar ganu.

Daw Morwyn Llyn y Fan Fach â chariad a chyfoeth i’w gŵr, a’r gallu i wella afiechydon i’w phlant.

Boddir dinas dan lyn Cynffig a chaiff Tywysoges greulon ei melltithio gan y Pantannas.

Mae Prif Farchog y Brenin Arthur yn cyfarfod Iarlles y Ffynnon, ac yn atal trychineb ger Llyn Llech Owain.

Dyma bum stori hudolus lle mae ysbrydion o fyd arall yn taenu eu cysgodion, gan greu lledrith a melltith a gosod eu creadigaethau digyfnewid yn y byd hwn.

   
 
Bydd marchog yn marchogaeth atoch chi mor gyflym â’r gwynt er mwyn eich herio...
   
O Dduw Dad, yr hwn sydd yn gwybod pob dim, os ydych wedi fy newis i fel gwir Dywysog Cymru, mynnaf fod yn eofn a gofyn i’r adar hyn dorri eu llw o dawelwch fel y bydd eu cân yn dangos harddwch eich creadigaeth!
 
Ymddangosodd dynes dal, hardd. Llifai ei gwallt dros ei hysgwyddau i’w chanol; crogai gŵn sidan o’i hysgwyddau ac arnofio y tu ôl iddi.

Gellir cael y trosiad - Lake Stories of Wales, Shadows in the Waters - o Wasg Apecs.